Abeer Alabdan

Graddiodd Abeer Alabdan o Brifysgol King Saud (KSU) yn 2008 gyda gradd anrhydedd BSc dosbarth cyntaf mewn Anghenion Addysg Arbennig, gan fanylu ym maes Nam ar y Clyw, KSA. Yn dilyn y llwyddiant hwnnw, cafodd ei phenodi'n ddarlithydd yn yr adran anghenion addysgol arbennig yn KSU. Mae rhan o'i phrofiad gwaith yn cynnwys goruchwylio a datblygu'r rhaglen hyfforddi athrawon yn yr Ysgol Addysg yn KSU.

Yn 2010, derbyniodd ysgoloriaeth lawn o'r Weinyddiaeth Addysg a KSU i ddilyn ei nodau academaidd ym maes nam ar y golwg (VI) yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor.

Yn 2013, llwyddodd i gwblhau ei gradd Meistr mewn Addysg, gyda Theilyngdod, yn Ysgol Addysg Bangor. Mae Abeer yn frwd dros ddatblygu a gwella darpariaeth addysg arbennig ymhellach yn Saudi Arabia, yn ogystal â chyfoethogi gwybodaeth athrawon am ryngweithiad diwylliant a chwricwlwm.

Ar hyn o bryd, mae'n astudio ar gyfer ei PhD o dan oruchwyliaeth Dr Jean Ware o Brifysgol Bangor a'r Athro Graeme Douglas o Brifysgol Birmingham. Yn ei rhaglen PhD mae'n ceisio ymchwilio i'r Cwricwlwm Craidd Estynedig ar gyfer myfyrwyr VI yn Saudi Arabia. Drwy gydol ei chwrs astudio, mae Abeer wedi cymryd rhan mewn nifer o wahanol gynadleddau addysgol o bwys, fel y British Educational Research Association (BERA) a'r Oxford Education Research Symposium (OERS). Mae'r holl brofiadau hyn wedi gwella ei gwybodaeth yn sylweddol nid yn unig yn ei maes ymchwil arbenigol ond hefyd yn yr agweddau ehangach ar ddarpariaeth AAA.