Y Tîm Rheoli

Yr Athro J. Carl Hughes

Cyswllt: c.hughes@bangor.ac.uk

Mae'r Athro Carl Hughes, BCBA-D, yn uwch ddarithydd a seicolegydd ymddygiadol ymgynghorol yn yr Ysgol Seicoleg, Prifysgol Bangor. Mae'n gyfarwyddwr y Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil Addysg, Tystiolaeth ac Effaith (CIEREI), a dirprwy bennaeth y Coleg Iechyd a Gwyddor Ymddygiad.  Mae'r Athro  Hughes yn gadeirydd y Grŵp Dadansoddi Ymddygiad yn Arbrofol, yn y DU ac yn Ewrop, ac mae’n un o aelodau gwreiddiol y Gymdeithas Ewropeaidd ar Ddadansoddi Ymddygiad ac yn aelod o fwrdd Cymdeithas Dadansoddi Ymddygiad y DU.

Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys ymyriadau addysgol gyda phlant yn seiliedig ar dystiolaeth; cymhwyso gwyddor ymddygiadol at ddibenion addysgol; a defnyddio seicoleg ymddygiadol yn eang, mewn meysydd fel iechyd. Mae'r Athro Hughes yn gynghorydd etholedig o Ganolfan Astudiaethau Ymddygiadol Caergrawnt, sef sefydliad rhyngwladol sy'n canolbwyntio ar ledaenu a hyrwyddo'r defnydd o seicoleg ymddygiadol i wella bywydau pobl. Anrhydeddwyd Yr Athro Hughes yn ddiweddar fel yr Ewropead cyntaf i gael y wobr am Gyfraniad Nodedig i Ddadansoddi Ymddygiad  gan y gymdeithas ryngwladol, Society for the Advancement of Behaviour Analysis (SABA).

Mae gan Yr Athro Hughes 53 o gyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid. Cyhoeddwyd llawer ohonynt yn rhai o'r prif gyfnodolion rhyngwladol ym maes secioleg ymddygiadol ac addysg ac anabledd.

Meysydd ymchwil gweithredol

Mae'r Athro Hughes yn cyflawni ymchwil ar hyn o bryd mewn sawl maes sy'n berthnasol i waith CIEREI, megis:

Ymyriadau ymddygiadol ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer plant ag awtistiaeth ac anableddau datblygu: Prif thema'r ymchwil hon fu adeiladu ar dystiolaeth flaenorol ar gyfer ymyriadau addysgol ac ymddygiadol cynnar yn achos plant ag awtistiaeth, anableddau datblygu ac anhwylderau ymddygiadol.

Grŵp Ymchwil Darllen Headsprout Bangor (BHRG):Yn 2004 fe wnaethom ddechrau ar raglen ymchwil yn ymchwilio i effeithiolrwydd rhaglen ddarllen ar y rhyngrwyd o'r enw Headsprout Early Reading gyda phoblogaethau amrywiol o blant ar draws Gogledd Cymru. Y nod oedd darparu offer ymarferol, cost effeithiol a seiliedig ar dystiolaeth i ysgolion ar gyfer addysgu darllen.

Grŵp Ymchwil Dysgu Manwl Bangor (BPTRG):Dechreuodd y grŵp ymchwilio i ddysgu manwl (DM) yn 2002 ac, ers hynny, bu'n gwerthuso'r defnydd o DM mewn nifer o leoliadau gwahanol gyda phoblogaethau amrywiol o blant ac oedolion sy'n dysgu.

Dr Maggie Hoerger

Cyswllt: m.hoerger@bangor.ac.uk

Mae Marguerite (Maggie) Hoerger yn Uwch Ddarlithydd (Addysgu ac Ymchwil) yn yr Ysgol Addysg. Graddiodd â BA magna cum laude mewn Seicoleg o Brifysgol Cornell yn 1996. Aeth ymlaen i weithio gydag ysgolion yn ardal Boston i gyflwyno ymyriad cynnar i blant ifanc gydag anhwylderau sbectrwm awtistiaeth (ASD) ac anableddau dysgu eraill.

Symudodd Maggie i Fangor yn 2000, a chwblhau ei PhD yn 2003 ar bwnc hunan-reolaeth mewn plant gydag ADHD. Yn 2004 roedd ymysg yr ymarferwyr cyntaf yn Ewrop i gymhwyso fel Dadansoddwr Ymddygiad a Ardystiwyd gan y Bwrdd (BCBA). Penderfynodd Maggie a'i theulu aros yng Ngogledd Cymru ac ar ôl graddio dechreuodd ddarlithio yn yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor ar Ddadansoddi Ymddygiad Cymhwysol.

Bu'n ymgynghorydd hefyd i awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru a Lloegr i sefydlu ymyriadau addysgu ac ymddygiadol i blant ifanc gydag anghenion addysgol arbennig. Mae ei phrif ddiddordebau ymchwil ym maes cynllunio a gwerthuso ymyriadau addysgu ac ymddygiadol ar sail tystiolaeth i'w defnyddio mewn ysgolion anghenion arbennig wedi eu cynnal.

Mae Maggie yn cydweithio gydag ysgolion i addasu technolegau sy'n seiliedig ar ddadansoddiad ymddygiad mewn ffordd sy'n fforddiadwy ac yn gyson â diwylliant pob ysgol. Mae wedi cyhoeddi'n helaeth mewn cyfnodolion a adolygir gan gydweithwyr gan ddangos bod plant sy'n cymryd rhan yn y rhaglenni hyn yn dod ymlaen yn sylweddol ar fesuryddion o sgiliau academaidd, ymddygiadau ymaddasol a chyfathrebu. Mae ei gwaith wedi cael ei gydnabod fel Ymarfer Gorau gan Estyn ac fel Maes Cryfder gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol.  Mae ar hyn o bryd yn cynnal project ymchwil ar raddfa fawr i bennu a all cwricwlwm blynyddoedd cynnar yn seiliedig ar ddadansoddi ymddygiad wella deilliannau i blant ag anghenion arbennig mewn ysgolion ar draws Cymru a Lloegr.

Mae gan Maggie benodiadau deuol yn yr Ysgolion Addysg a Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor.

Grwpiau ymchwil Maggie sy'n berthnasol i waith CIEREI yw:

  • Cynhwysiad/Anghenion Addysgol Arbennig
  • Newid Ymddygiad mewn Ysgolion

Dr Richard Watkins

Cyswllt: richardwatkins@gwegogledd.cymru

Mae Dr Richard Watkins yn ymgynghorydd gwella ysgolion ar gyfer Gwasanaeth Rhanbarthol Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru (GwE). Mae diddordebau gwaith ac ymchwil Richard yn cynnwys addysg wyddoniaeth a chymhwyso strategaethau addysgu seiliedig ar dystiolaeth mewn ysgolion. Mae wedi cyhoeddi amrywiaeth o erthyglau ar addysg wyddoniaeth ac ymyriadau darllen, ynghyd ag adnoddau cwricwlwm ac asesu ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae Richard yn cydlynu nifer o brojectau ymchwil sy'n canolbwyntio ar ddefnyddio ymyriadau darllen a rhifedd yn seiliedig ar dystiolaeth mewn ysgolion ar draws Gogledd Cymru ac ystyried eu heffaith.

Yr Athro Enlli Thomas

Cyswllt: enlli.thomas@bangor.ac.uk

Mae Enlli Thomas yn gyn Bennaeth yr Ysgol Addysg. Mae ei phrif ddiddordebau ac arbenigedd ymchwil yn cynnwys dulliau seicolegol o astudio caffael iaith ddwyieithog, gan gynnwys caffael plant o strwythurau cymhleth gyda dim ond ychydig o fewnbwn ieithyddol, asesu dwyieithog, a dulliau addysgol o drosglwyddo, caffael a defnyddio iaith. Mae wedi cynnal ymchwil ac wedi cyhoeddi’n helaeth mewn llawer o feysydd astudio iaith, yn cynnwys papurau ar agweddau ar gaffael dwyieithog, gan gynnwys ffactorau mewnbynnu sy'n dylanwadu ar gaffael L1-L2 llwyddiannus; trosglwyddo dwyieithog; asesiadau dwyieithog; llythrennedd ddwyieithog; Swyddogaeth Weithredol a dwyieithrwydd; statws economaidd-gymdeithasol a galluoedd iaith; a ffactorau'n dylanwadu ar ddefnyddio iaith.  Mae'n rhoi darlithoedd gwadd rheolaidd i ymarferwyr a gweithwyr gofal plant yn y sector addysg a'r sector iechyd meddwl ar bynciau sy'n ymwneud â datblygiad iaith a dwyieithrwydd, ac mae wedi ymddangos yn rheolaidd ar deledu a radio fel arbenigwr yn ei meysydd.

Graddiodd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor yn 1996 ac aeth ymlaen i gael PhD mewn Seicoleg yn 2001. Roedd ei thesis yn edrych ar y ffordd mae plant Cymraeg eu hiaith yn caffael a defnyddio cenedl enwau yn y Gymraeg.  Ar ôl cwblhau ei PhD, arhosodd ym Mangor i weithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol ar astudiaeth a gyllidwyd gan yr ESRC yn edrych ar ddatblygiad treiglo, cenedl enwau a chategoriau gramadegol mewn plant Cymraeg eu hiaith.  Yn ystod y blynyddoedd dilynol bu’n gweithio fel Aelod Cyswllt Addysgu yn yr Ysgol Seicoleg, lle bu'n gyd-awdur nifer o grantiau ymchwil mawr llwyddiannus , gan edrych ar arferion trosglwyddo iaith yn y cartref (Bwrdd yr Iaith Gymraeg), effeithiau gwybyddol  dwyieithrwydd gydol oes (ESRC), datblygu offer asesu iaith Gymraeg (Llywodraeth Cynulliad Cymru), asesiad niwroseicolegol o siaradwyr dwyieithog Cymraeg-Saesneg  (Pwyllgor Ymchwil Gogledd Cymru a Phwyllgor Dyfarnu Granitau Ymchwil a Datblygu Ymddiriedolaeth GIG Gorllewin Cymru) a dwyieithrwydd a dementia (Pwyllgor Ymchwil Gogledd Cymru).

Ers iddi ymuno â'r Ysgol Addysg yn 2007, bu'n aelod craidd o Bwyllgor Gwaith y Ganolfan ESRC dros Ymchwil i Addysg mewn Theori ac Ymarfer, ac mae wedi bod yn defnyddio ei harbenigedd yn y cyd-destun addysg.  Mae Enlli wedi arwain nifer o brojectau ymchwil, gan gynnwys rhai sy'n edrych ar ddatblygu defnydd cymdeithasol plant o'r Gymraeg yn y dosbarth a thu allan iddo (Hunaniaith a Bwrdd yr Iaith Gymraeg), rhai sy'n edrych ar gyfleoedd a roddir i blant L2 i ddefnyddio'r Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth (Llywodraeth Cymru), datblygu addasiadau Cymraeg o fesurau safonol  mesurau ieithyddol ac aneithyddol a ddefnyddir yn eang mewn ysgolion (GL Assessment), gwerthuso rhaglen ddarllen Premier League Reading Stars Cymru (Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol), a gwerthuso rhaglen deuluol - The Family Learning Signature - i helpu awdurdodau addysg i wella cyrhaeddiad, presenoldeb ac ymddygiad, yn enwedig gyda theuluoedd anodd eu cyrraedd a dysgwyr sydd wedi ymddieithrio (Cronfeydd Ehangu Mynediad). Yn ddiweddar, bu'n cyd-arwain ar broject a ariennir gan Gonsortia Ôl-16 Gwynedd a Môn i werthuso'r gwahanol fathau o addysgu 'dwyieithog' a ddefnyddir ar draws y rhanbarth a datblygu meddalwedd newydd i alluogi sefydliadau i olrhain y defnydd o'r Gymraeg a'r Saesneg ar draws y cwricwlwm yn flynyddol fel rhan o'u strategaeth cynllunio iaith. Mae'r meddalwedd bellach yn cael ei ddefnyddio ym mhob sefydliad yng Ngwynedd ac Ynys Môn sy'n darparu i ddisgyblion ôl-16. Yn ddiweddar, mae wedi bod yn gyd-awdur grant ESRC ar raddfa fawr (£1.8 miliwn), sy'n broject aml-sefydliad i ddatblygu'r corpws torfol cyntaf i gasglu enghreifftiau o'r defnydd o'r Gymraeg, yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Bydd yn cyd-arwain ar ddatblygu a gwerthuso adnodd penodol ar gyfer athrawon a dysgwyr Cymraeg a fydd yn deillio o'r corpws fel rhan o'r ymchwil.

Mae hi hefyd yn awdur a chyd-awdur nifer o erthyglau a phenodau llyfrau, a chyd-awdur offer safonol ar gyfer mesur geirfa plant yn y Gymraeg. Yn ddiweddar, cyd-olygodd gyfrol  "Advances in the Study of Bilingualism".