Gwybodaeth am CIEREI
Mae CIEREI yn sefydliad cydweithredol, dwyieithog ac amlddisgyblaethol i greu tystiolaeth ymchwil gyda'r prif nod o gael effaith gadarnhaol ar ddysgu a lles plant drwy ysgolion.
Cydweithio
Mae CIEREI yn gydweithrediad strategol a ffurfiol rhwng GwE (y Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol Gogledd Cymru), Prifysgol Bangor (dan arweiniad yr Ysgol Addysg a'r Ysgol Seicoleg), a chyrff a sefydliadau eraill sydd â diddordeb personol mewn gwella canlyniadau addysgol a lles plant.
Amcanion CIEREI

Mae amcanion strategol CIEREI yn seiliedig ar y weledigaeth a ddisgrifir gan Yr Athro Donaldson (Llywodraeth Cymru, 2015), a'r Athro Furlong (Furlong, 2015) ar adeiladu economi addysg sy'n seiliedig ar ymchwil yng Nghymru. (Gellir gweld y papurau hyn ac eraill yn ein Tudalen Darllen Cefndirol.)
Amcanion:
- Adeiladu cymuned ymchwil fywiog a fydd yn sail wybodaeth i ymarfer addysgol cyfredol, rhaglenni addysg gychwynnol athrawon, a datblygiad proffesiynol parhaus athrawon
- Gweithio ar y cyd ac yn strategol gyda grwpiau a chanolfannau sydd eisoes yn cynnal ymchwil addysgol
- Datblygu ac atgyfnerthu sgiliau a gwybodaeth athrawon ac arweinwyr ysgolion mewn ymarfer addysgol ar sail tystiolaeth
- Creu amgylchedd addysgol sy'n cefnogi arloesi a gwerthuso ymarfer addysgol
- Cefnogi ymgyrch 'Cymwys am Oes' Llywodraeth Cymru a chyfrannu at y canllawiau 'beth sy'n gweithio' presennol

Bydd yr holl blant a phobl ifanc yn:
- Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
- Cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
- Dinasyddion moesegol, gwybodus sy'n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd.
- Unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas