Gwrth-fwlio

Mae rhaglen Gwrth-fwlio KiVa yn yr ysgol, a ddarperir gan athrawon, yn atal bwlio ac yn mynd i'r afael yn effeithiol â digwyddiadau bwlio.  Datblygwyd y rhaglen gan Brifysgol Turku, yn Y Ffindir, ac fe'i defnyddir mewn 90% o ysgolion cyfun yn Y Ffindir. Mae tystiolaeth gynyddol o'i heffeithiolrwydd yn y Deyrnas Unedig a'r Ffindir. Mae'r rhaglen ar gael ar hyn o bryd ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 ac mae'n cynnwys tua 50% o gwricwla Addysg Bersonol a Chymdeithasol Cymru a Lloegr.  CEIT yw'r unig sefydliad hyfforddi trwyddedig ar gyfer y rhaglen KiVa yn y DU.

Gweler y Ganolfan Ymyriad Cynnar Seiliedig ar Dystiolaeth i gael rhagor o wybodaeth am KiVa a'r rhaglenni a gynigir.

Darllen

Introducing and piloting the KiVa bullying prevention programme in the UK (2015) Judy Hutchings and Susan Clarkson.