Cameron Downing

Cwblhaodd Cameron Downing ei BSc ac MSc mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor. Yn ystod yr amser hwn, datblygodd ddiddordeb brwd mewn datblygiad nodweddiadol a llythrennedd. Dilynodd Cameron y diddordeb hwn yn ei PhD pan, dan oruchwyliaeth Dr. Markéta Caravolas, edrychodd ar y berthynas rhwng dyslecsia ac anhwylder cydsymud datblygiadol a'r namau llawysgrifen sy'n gysylltiedig â'r anhwylderau hyn. Mae'n arbennig o angerddol am integreiddio'r hyn y mae ymchwilwyr yn ei wybod gydag arbenigedd addysgwyr i greu gwelliannau mesuradwy mewn addysg llythrennedd i blant, yn arbennig rhai ag anawsterau dysgu penodol.

Yn ddiweddar, cynhaliodd weithdy - a ariannwyd gan Gyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC - i ymarferwyr (athrawon, arweinwyr ysgol, therapyddion galwedigaethol ac ati) a oedd yn canolbwyntio ar anawsterau llawysgrifen ymysg plant ac mae wedi cyd-ddatblygu prawf sillafu ac eglurder llawysgrifen (Prawf Sillafu ac Eglurder Llawysgrifen; SaHLT). Mae Cameron yn parhau i ddilyn ei ddiddordebau wrth gwblhau ei PhD. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar broject sy'n edrych ar ffynonellau anawsterau llawysgrifen (dysgraffia) ymysg plant.

Cameron Downing's page on the School of Psychology website.