Jane Pegram

Graddiodd Jane Pegram o Brifysgol Bangor ym mis Gorffennaf 2017 gyda gradd anrhydedd BSc dosbarth 1af mewn Seicoleg. Nod a diddordeb arbennig Jane yw effeithio ar fywydau pobl ifanc gan ddefnyddio egwyddorion ar sail tystiolaeth i wella lles, ymddygiad a gwneud y gorau o ddysgu; gan alluogi rhagor o bobl ifanc i ffynnu. Yn ystod haf 2017, gweithiodd Jane fel Swyddog Cefnogi Project Ymchwil ar gyfer CIEREI yn cwblhau gwahanol brojectau ymchwil mewn ysgolion. Mae erbyn hyn yn astudio am PhD dan oruchwyliaeth yr Athro Carl Hughes, Maggie Hoerger a Richard Watkins (GwE) sy'n anelu at wella bywydau myfyrwyr.