Kaydee Owen

Cwblhaodd Kaydee Owen ei BSc mewn seicoleg ym Mhrifysgol Bangor yn 2016. Datblygodd hyn ei diddordeb mewn defnyddio ymarfer ar sail tystiolaeth o fewn addysg, gyda ffocws penodol ar ddulliau dadansoddi ymddygiad. Yn ystod ei blwyddyn Meistr, bu Kaydee yn gysylltiedig â nifer o brojectau ymchwil sy'n ymchwilio i raglenni fel SAFMEDS, Headsprout, a SuccessMaker. Mae nawr yn archwilio'r defnydd o addysgu manwl gywir mewn ysgolion fel rhan o'i PhD, sy'n cael ei oruchwylio gan yr Athro J Carl Hughes a Dr Richard Watkins (GwE). Nod y project hwn yw gwella deilliannau rhifedd plant ar draws gogledd Cymru.