Nia Mererid Parry

Yn dilyn cwblhau ei hastudiaethau Meistr mewn Addysg ym Mangor yn llwyddiannus yn 2015, dechreuodd Nia ei PhD ym maes dwyieithrwydd dan oruchwyliaeth yr Athro Enlli Thomas a Dr Nia Young. Mae'r ddoethuriaeth, a gynhelir yn ystod cyfnod hollbwysig o adfywio'r iaith Gymraeg, yn canolbwyntio ar werthuso gweithredu Cymraeg achlysurol mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg yng Ngogledd Cymru. Mae Nia wedi cyflwyno ei gwaith mewn nifer o gynadleddau ledled Ewrop, yn cynnwys y Ffindir, Iwerddon, Gwlad Pwyl a Chymru, ac mae hefyd wedi bod yn rhan o brojectau ymchwil ychwanegol ar gyfer sefydliadau fel GwE a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.