Astudiaeth Arbrofi Darllen Ar-lein Gogledd Cymru - Project Gweithredu Traws-ranbarthol (NorthWORTS-TRIP) 2017-2018
Project Headsprout
Beth yw NorthWORTS-TRIPP?
Mae NorthWORTS-TRIP (Astudiaeth Arbrofi Darllen Ar-lein Gogledd Cymru - Cynllun Gweithredu Traws-ranbarthol) wedi ei gynllunio i helpu ysgolion cynradd wella safonau darllen y plant ledled rhanbarth Gogledd Cymru.
Mae hwn yn broject gweithredu uchelgeisiol, y cyntaf o'i fath yng Nghymru, ac mae'n rhan o weledigaeth ehangach y Cynllun Cydweithredol Tystiolaeth Ymchwil ac Effaith Addysg (CIEREI) i roi Gogledd Cymru yn ei chanol hi o ran ymyraethau addysg mawr sydd wedi eu seilio ar dystiolaeth.
Bydd y project yn helpu ysgolion weithredu rhaglen ddarllen sy'n seiliedig ar dystiolaeth o'r enw Headsprout Early Reading (HER). Rhaglen addysgu darllen a deall Saesneg yw HER ac mae eisoes wedi cael ei defnyddio'n llwyddiannus i wella sgiliau darllen disgyblion mewn ysgolion ledled Gogledd Cymru. Mae HER yn cynnig cyfarwyddyd darllen atodol gyda chymorth cyfrifiadur sy'n codi plant sy'n dechrau darllen hyd at safon ddarllen Blwyddyn 3. Cafodd peth o'r gwaith ymchwil a wnaed yng Ngogledd Cymru hyd yma ei gyhoeddi mewn cyfnodolion ymchwil a adolygir gan gymheiriaid a bu'n canolbwyntio nid yn unig ar y canlyniadau darllen i'r plant, ond hefyd ar y ffactorau allweddol sy'n arwain at ei weithredu'n llwyddiannus ledled yr ysgolion sy'n nodweddu Gogledd Cymru. Mae'r cynnig hwn yn gynllun ar y cyd rhwng GwE, CIEREI: (Prifysgol Bangor), a Phrifysgol Warwick, ac mae'n barhad o brojectau blaenorol Headsprout.
Mae'r project yn rhoi hyfforddiant o safon uchel a chymorth gyda'r sefydlu i'r ysgolion ar gyfer Darllen Cynnar Headsprout i alluogi'r ysgolion i weithredu'r rhaglen yn effeithiol, yn seiliedig ar brofiad o weithio gyda mwy na 50 o ysgolion a channoedd o blant.
Beth yw prif ganlyniad NorthWORTS-TRIPP?
- Gwella sgiliau darllen disgyblion y grŵp targed, gan ganolbwyntio ar ddisgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim a/neu ddarllenwyr sy'n ei chael hi'n anodd.
- Rhoi ymyrraeth ddarllen sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'r ysgolion y gallant ei defnyddio'n effeithiol.
- Am fuddsoddiad ariannol bach, galluogi nifer fawr o ysgolion ledled y rhanbarth i gael hyfforddiant gweithredu ar gyfer defnyddio'r rhaglen yn effeithiol yn y grŵp targed.
- Rhoi gwaddol i'r ysgolion o ymyrraeth ddarllen sydd wedi ei seilio ar dystiolaeth, a staff hyfforddedig
- Galluogi'r ysgolion i wella eu hasesiadau effaith trwy ddefnyddio technegau gwerthuso cadarn.
Project Darllen Cynnar Headsprout
Beth yw Headsprout a sut bydd o fudd i ddisgyblion fy ysgol?
Mae Darllen Cynnar Headsprout yn rhaglen ar-lein ar gyfrifiaduron a ddatblygwyd gan arbenigwyr ym maes cymhwyso gwyddorau dysgu i fyd addysg. Cafodd y rhaglenni eu cynllunio i gynnwys yr elfennau hynny y mae'r ymchwil yn dangos sy'n bwysig o ran llwyddo gyda darllen, ac maen nhw'n darparu addysgu unigol y mae'n bosib ei darparu gyda'r chymorth lleiaf posibl gan y staff a hyfforddwyd i ddefnyddio Headsprout.
Mae Darllen Cynnar Headsprout (HER) yn cynnwys 80 o wersi ac fe'i cynlluniwyd i godi darllenwyr newydd hyd at safon ddarllen Blwyddyn 3 mewn 30 awr o gyfarwyddyd unigol. Mae'r rhaglen wedi cael ei gloriannu'n helaeth a thrylwyr a dangosodd hynny ei fod yn effeithiol i lawer o blant (gweler yr wybodaeth isod am gyhoeddiadau).
Gall Headsprout helpu'r ysgolion fel a ganlyn:
- Gwella cyrhaeddiad mewn sgiliau darllen i ddisgyblion dethol sydd heb wneud cynnydd priodol o ran eu hoedran.
- Galluogi disgyblion a dargedir i gael mynediad at feysydd eraill y cwricwlwm trwy wella eu sgiliau darllen.
- Hyrwyddo'r defnydd o ymyraethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i godi'r safonau darllen a deall (cf. Blaenoriaeth gan Ymddiriedolaeth Sutton a grant amddifadedd disgyblion Llywodraeth Cymru).
- Darparu hyfforddiant unigol, da a chost-effeithiol, i'r plant.
Sut ydym ni'n gwybod bod Headsprout yn effeithiol?
Mae gan Headsprout sylfaen dystiolaeth gynyddol, ac mae nifer o astudiaethau rheoledig wedi dangos canlyniadau positif. Bu Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor yn treialu rhaglenni Headsprout gyda mwy na 50 o ysgolion yng Ngogledd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, a bu canfyddiadau calonogol sy'n dangos y gall y rhaglen fod yn effeithiol i lawer o blant, gan gynnwys darllenwyr newydd ifanc datblygol, darllenwyr hŷn sy'n ei chael hi'n anodd, a phlant sydd ag awtistiaeth a/neu anabledd deallusol.
Mae canlyniadau nifer o brojectau Headsprout yng Ngogledd Cymru wedi eu cyhoeddi mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid, gan gynnwys data project ysgolion Conwy 2015 a gwerthusiad o brawf ar hap bach ar y defnydd o Headsprout fel ymyrraeth cynnal darllen:
Watkins, R. C., Hulson-Jones, A., Tyler, E., Hastings, R. P., Beverley, M. and Hughes, J. C. (2016). Evaluation of an online reading programme to improve pupils’ reading skills in primary schools: Outcomes from two implementation studies. Wales Journal of Education vol. 18(2), 81-104
Tyler, E. J., Hughes, J. C., Beverley, M., & Hastings, R. P. (2015). Improving early reading skills for beginning readers using an online programme as supplementary instruction. European Journal of Psychology of Education, 30, 281-294.
Pa ddisgyblion fydd yn elwa o ymyrraeth Darllen Cynnar Headsprout (HER)?
Mae HER wedi ei gynllunio i fynd â'r disgyblion o ddechrau darllen a'u gwneud yn rhugl yn eu darllen yn gyfatebol i 7-8 mlwydd oed. Gallwch defnyddio HER gyda disgyblion o unrhyw oedran sydd heb gyrraedd rhuglder darllen sy'n cyfateb i 7-8 mlwydd oed eto. (Rydym hefyd wedi ei defnyddio'n llwyddiannus gyda darllenwyr sy'n cael trafferth ac sydd o oedran cynradd uwch neu uwchradd is). Pan fydd yr ysgolion yn ymuno â'r project, byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth ynglŷn â sut mae adnabod plant sy'n addas ar gyfer y project.