Gwella sgiliau rhifedd sylfaenol y disgyblion gyda SAFMEDS 2017-2018

Project SAFMEDS-GwE

Mae SAFMEDS-GwE (Say All Fast Minute Every Day Shuffled) yn broject i wella sgiliau mathemateg sylfaenol y disgyblion gan ddefnyddio strategaeth addysgu sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae'r project yn dreial rheoledig clwstwr ar hap sy'n cloriannu effaith ymyrraeth addysgu fanwl o'r enw SAFMEDS (Say All Fast Minute Every Day Shuffled) ynghylch cyrhaeddiad rhifedd disgyblion yn ysgolion cynradd GwE. Mae SAFMEDS yn ymyrraeth addysgu sydd eisoes wedi cael ei defnyddio'n llwyddiannus i wella sgiliau rhifedd disgyblion mewn astudiaethau llai o faint yn ysgolion Gogledd Cymru.

Beth yw SAFMEDS-Conwy

Nod y project yw gwella sgiliau rhuglder rhifedd sylfaenol disgyblion Blwyddyn 2 hyd Flwyddyn 3 y nodwyd bod arnynt angen cefnogaeth trwy ymyraethau gydag addysgu atodol i wella'u sgiliau rhuglder sylfaenol. Erbyn hyn mae gennym dystiolaeth trwy ymchwil bod SAFMEDS yn fethodoleg addysgu atodol effeithiol iawn. Prif ffocws y project hwn oedd nodi isafswm o 20 o ysgolion cynradd yn rhanbarth GwE lle mae nifer sylweddol o ddisgyblion yn cael trafferth gyda'r sgiliau rhifedd disgwyliedig a/neu mae angen cymorth ac ymarfer arnynt i wella eu rhuglder mewn amryw o sgiliau mathemateg yn y rhaglen astudio ddiwygiedig. Mae'r project yn canolbwyntio'n benodol ar wella'r canlyniadau ar gyfer disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim.

Gwyddom yn sgil y projectau ymchwil a fu yng Ngogledd Cymru y gellir cyflwyno SAFMEDS yn effeithiol mewn amrywiaeth o ffurfiau, er enghraifft sesiynau ymyrraeth gan gynorthwywyr dysgu i grwpiau bach, ymyrraeth dosbarth cyfan neu sesiynau o dan arweiniad cyfoedion. Bydd y cynllun peilot a reolir ar hap (RCT) yn cloriannu effaith y gefnogaeth barhaus ychwanegol a'r dadansoddiad data ar y deilliannau dysgu a gyflawnir.

Cafodd peth o'r gwaith ymchwil a wnaed yng Ngogledd Cymru ei gyhoeddi mewn cyfnodolion ymchwil a adolygir gan gymheiriaid a buont yn canolbwyntio nid yn unig ar ganlyniadau SAFMEDS, ond hefyd ar y ffactorau allweddol sy'n arwain at weithredu'n llwyddiannus ledled yr ysgolion sy'n nodweddu Gogledd Cymru. Mae'r cynnig yn gynllun ar y cyd gan GwE a Phrifysgol Bangor, fel rhan o'r CIEREI (Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil Addysg, Tystiolaeth ac Effaith).

Prif nodau SAFMEDS-GwE yw:

  • Gwella sgiliau rhuglder mathemateg sylfaenol y disgyblion y nodwyd bod arnynt angen ymyrraeth a chymorth i'w cynnal
  • Helpu'r ysgolion weithredu SAFMEDS yn effeithiol
  • Bydd pob ysgol yn derbyn hyfforddiant a chymorth cychwynnol i gyflwyno SAFMEDS i grŵp targed o ddisgyblion. Bydd y project hefyd yn cynorthwyo'r ysgolion i fonitro a chloriannu'r ymyrraeth.
  • Caiff hanner yr ysgolion sy'n cymryd rhan eu trefnu ar hap i dderbyn cefnogaeth a chyngor rheolaidd ychwanegol gan y tîm ymchwil i weld a wnaiff model cefnogaeth allanol gwell wella'r canlyniadau i'r plant. Er y caiff pob disgybl yn y project fudd o SAFMEDS, mae gennym ddiddordeb gwybod effaith y gefnogaeth barhaus ar ganlyniadau'r disgyblion.
  • Bydd swyddog ymchwil Bangor yn ymweld â'r ysgol i gynnal y profion lleoliad cychwynnol ar y 10 disgybl a nodwyd gennych ar gyfer yr ymyrraeth.

Beth yw SAFMEDS a sut bydd o fudd i ddisgyblion fy ysgol?

Mae SAFMEDS yn strategaeth addysgu sy'n seiliedig ar dystiolaeth a ddatblygwyd gan arbenigwyr ar gyfer cymhwyso'r gwyddorau dysgu i addysg. Mae'r ymyrraeth wedi ei chynllunio i alluogi'r disgyblion i wella eu cyfradd ddysgu a chyflawni rhuglder yn y sgil dynodedig, sef yw hynhny yn yr achos yma, sgiliau mathemateg. Fel rheol, mae'r disgyblion yn derbyn tair sesiwn 20 munud yr wythnos.

Gall SAFMEDS helpu'r ysgolion fel a ganlyn:

  • Gwella cyrhaeddiad mathemateg y disgyblion y nodwyd nad ydynt yn  gwneud cynnydd priodol o ran eu hoedran.
  • Galluogi'r disgyblion a dargedir i gael mynediad at feysydd eraill y cwricwlwm trwy wella eu sgiliau mathemateg a rhifedd.
  • Hyrwyddo'r defnydd o ymyraethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i godi safonau mathemateg a rhifedd (cf. Blaenoriaeth gan Ymddiriedolaeth Sutton a grant amddifadedd disgyblion Llywodraeth Cymru).
  • Darparu cyfarwyddyd unigol, da a chost-effeithiol.

Sut ydym ni'n gwybod bod SAFMEDS yn effeithiol?

Mae gan SAFMEDS sylfaen dystiolaeth gynyddol, ac mae nifer o astudiaethau rheoledig wedi dangos canlyniadau positif. Bu Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor yn treialu SAFMEDS gydag ysgolion yng Ngogledd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, gyda chanfyddiadau calonogol sy'n dangos bod y rhaglen yn helpu plant wella eu sgiliau mathemateg sylfaenol. Mae'r astudiaethau hynny hefyd yn dangos eu bod yn cadw'r sgiliau hynny'n dda.

Cyhoeddwyd canlyniadau nifer o brojectau yng Ngogledd Cymru mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid.

Pa ddisgyblion fydd yn elwa o ymyraethau SAFMEDS?

Bydd SAFMEDS yn helpu disgyblion o bob oed feithrin y sgiliau mathemateg disgwyliedig. Mae'r Brifysgol wedi cynhyrchu banc adnoddau mawr o ddeunyddiau rhuglder SAFMEDS i helpu'r disgyblion feistroli pob un o'r Llinynnau a'r Elfennau yn Rhaglen Astudio Mathemateg 2014 o Flwyddyn 1 hyd Flwyddyn 7. Bydd gan ysgolion fynediad at yr holl ddeunyddiau hynny i'w defnyddio fel bo'n briodol.

Byddai unrhyw ddisgyblion sy'n cael trafferth gyda'u sgiliau mathemateg oherwydd oedran yn elwa o ymyrraeth SAFMEDS. Gallai hynny hefyd gynnwys disgyblion sy'n sgorio llai na 100 o bwyntiau sgôr safonol ar fathemateg safonol a/neu'r Profion Rhifedd Cenedlaethol. Nid yw SAFMEDS yn disodli hyfforddiant y dosbarth, mae'n helpu disgyblion feithrin meistrolaeth a rhuglder yn y sgiliau craidd yn gefn i'r  addysgu yn yr ystafell ddosbarth.