Sarah Roberts

Mae Sarah Roberts yn Athro Ysgol Gynradd a gymhwysodd ym Mhrifysgol Bangor yn 2006 a bu'n dysgu mewn ysgolion yng Nghonwy tan fis Gorffennaf 2015. Yna, dechreuodd Sarah weithio fel Swyddog Cefnogi Project Ymchwil i'r adran Seicoleg fel rhan o CEIREI. Bu'n gweithio dan arweiniad Dr Emily Tyler ar broject RTC Headsprout NorthWORTS (22 ysgol) rhwng 2015 a 2016. Dechreuodd Sarah ei Meistr trwy Ymchwil dan oruchwyliaeth yr Athro Carl Hughes, Dr Emily Tyler a Dr Richard Watkins (GwE) lle cynhaliodd y project RCT Cefnogi Rhieni NorthWORTS (24 ysgol) rhwng 2016 a 2017. Ar hyn o bryd mae'n cynnal Project Gweithredu Rhanbarthol Traws-NorthWORTS Headsprout (27 o ysgolion) rhwng 2017 a 2018 ym mhob sir yng ngogledd Cymru.

Mae Sarah yn gobeithio parhau i gefnogi ysgolion i weithredu ymyriadau ar sail tystiolaeth trwy ei gwaith i Brifysgol Bangor ac mewn cydweithrediad â GwE.