Stephanie Hastings

Teitl y project: Addasu sgiliau DBT i bobl ifanc ag ASD.

Llwyddodd Stephanie Hastings i gymhwyso fel Gweithiwr Cymdeithasol ym 1991 ac ers hynny mae wedi bod gweithio ym maes Awdurdodau Lleol, y sector gwirfoddol a lleoliadau gwasanaethau Iechyd.  Mae'n therapydd Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) a Therapi Ymddygiad Dilechdidol (DBT) achrededig ac yn gweithio'n glinigol ar hyn o bryd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn tîm CAMHS cymunedol, ac yn addysgu a goruchwylio CBT a DBT i amrywiaeth o weithwyr proffesiynol yn lleol (trwy Brifysgol Bangor) ac yn genedlaethol (fel rhan o dîm DBT Ynysoedd Prydain). Mae'n astudio'n rhan-amser ar gyfer PhD sy'n canolbwyntio ar addasu sgiliau DBT i ddisgyblion ag ASD mewn addysg uwchradd dan oruchwyliaeth Dr Michaela Swales a'r Athro Carl Hughes.

Cysylltu â Stephanie: psp526@bangor.ac.uk